Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 2, Senedd a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 9
Hydref 2024
Amser:
09.15 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14918
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Buffy Williams AS (Cadeirydd) Cefin Campbell AS Gareth Davies AS Vaughan Gething AS Tom Giffard AS Heledd Fychan AS |
|
Tystion: |
Marc Berw Hughes, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Sue Edmunds, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Elin Maher, Parents for Welsh Medium Education (RhAG) Hayden Llewellyn, Education Workforce Council Eithne Hughes, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Ian Morgan, CBAC |
|
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Manon Huws (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Nid oedd dirprwy ar ei ran.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Heledd Fychan AS o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd Cefin Campbell AS fuddiant gan y bu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru).
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
2.2 Cytunodd CLlLC i roi rhagor o wybodaeth ynghylch a yw pob awdurdod lleol yn cytuno â tharged statudol y Bil o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG).
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
4.2 Cytunodd Cyngor y Gweithlu Addysg i ddarparu nodyn ar ba ffactorau sy'n berthnasol i ddenu darpar athrawon.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru a CBAC.
6.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
Derbyniwyd y
cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.